Welcome to Shouttawe! Please sign up or login

Mae Loud & Proud Angen Ti!

Posted by LoudandProud from Cardiff - Published on 06/12/2011 at 09:46
0 comments » - Tagged as Culture, Education, Health, People

  • lp

English version

Mae'r Ddarpariaeth Ieuenctid Loud & Proud (LHDT) yn ddarpariaeth i bobl ifanc rhwng 14 a 25 oed sydd yn canfod eu hunain fel bod yn lesbiaid, hoyw, deurywiol neu drawsrywiol ac i'r rhai sydd efallai yn cwestiynu eu rhywioldeb neu ryw. Mae Loud & Proud yn cael ei redeg gan Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd ac wedi bod yn rhedeg am 2 flynedd.

Mae Loud & Proud bellach wedi dod i ddiwedd ei gyfnod peilot ac ar hyn o bryd mae'r niferoedd sydd yn mynychu'r sesiynau wedi bod yn isel iawn yn ddiweddar. Fel y gwelir o wefan theSprout, mae Loud & Proud wedi bod yn gweithio yn galed i leisio barn pobl ifanc LHDT ac yn cymryd rhan mewn prosiectau mawr fel Mardi Gras LHDT Caerdydd Cymru, Mis Hanes LHDT ac amryw brosiectau eraill.

Cafodd Loud & Proud ei sefydlu i ddarparu lle diogel i bobl ifanc LHDT ble gallent gyfarfod pobl o'r un meddwl ac i gymryd rhan mewn prosiectau fydd yn diddori nhw. Ond yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae awdurdodau lleol yn gorfod adolygu gwasanaethau ac mae hyn yn cynnwys Loud & Proud.

Bydd yr arolygiad yma yn digwydd fel un ai holiadur ar-lein neu aelod o staff yn mynd o gwmpas y dref ar bnawn Sadwrn i ofyn ychydig o gwestiynau. Byddwn yn hoffi clywed beth rydych chi eisiau fel darpariaeth LHDT felly os oes gen ti unrhyw syniadau yn plîs had sylwad isod nu cwblhau'r arolygiad ar-lein yma.

I lenwi'r holiadur cer i http://www.surveymonkey.com/s/3SSBPLJ.

John Bond

Swyddog Cynorthwyo Addysg Gymunedol
Darpariaeth Ieuenctid Loud & Proud (LHDT)

Adolygiad: Mardi Gras 2011
Sefydliadau – Loud & Proud: Darpariaeth Ieuenctid LHDT Caerdydd

DELWEDD: incurable_hippie

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.