Dim Mwy O Arwyr?
Gyda Shaun Ryder yn mynd i'r jyngl, John Lydon yn hyrwyddo menyn a Iggy Pop yn dweud wrthym ni i gymryd yswiriant Swift, ydy ni mewn perygl o'n harwyr yn gwerthu eu hunain?
Trwy'r 1970au a'r 80au roedd pethau fel y chwyldro pync a'r Hacienda yn dod a newidiadau mawr i'r ffordd roedd cerddoriaeth yn cael ei wrando arno ym Mhrydain.
Gydag ef daeth y sêr roc roeddem ni'r 'ffans' yn addoli. Ond yng nghymdeithas heddiw sydd yn newid o hyd rydym bellach yn gweld ein harwyr yn 'gwerthu eu hunain allan'.
Os fydda ti wedi gofyn i John Lydon 30 mlynedd yn ôl os byddai ar y teledu yn prancio o gwmpas mewn brethyn caerog yn canu am sut mae'n caru menyn Country Life dwi'n meddwl byddai wedi chwerthin arnat ti.
Os bydda ti'n dweud wrth Shaun Ryder yn ystod dyddiau mawr y Happy Mondays y byddai'n rhannu gwersyll gyda Stacey Solomon o'r (ydw i'n beiddio dweud?) X Factor, mewn ffordd foneddigaidd a thraddodiadol Manceinion byddai wedi dweud wrthyt ti am ff***o o yma.
Felly pam bod holl foesau'r rhain wedi diflannu mor sydyn? Un tro neidiodd Keith Moon (drymiwr The Who, yn y llun) i mewn i limo ar ei ffordd i gig ond yna stopiodd y car a gwneud i'r gyrrwr yrru'n ôl i'r gwesty er mwyn iddo fynd yn ôl i fyny i'r llofft i luchio'r teledu allan o'r ffenestr.
Ar ôl cyrraedd yn ôl i'r limo esboniodd i'r eraill o'r band, Daltrey, Townsend a Entwistle, ei fod yn "lwcus nad oedd wedi anghofio gwneud hynny". Roc a rôl ar ei orau. Dwi ddim yn dweud fod hyn yn ymddygiad cywir, gallai'r teledu fod wedi brifo rhywun, ond mae'r math yma o agwedd wyllt, aruthrol yma wedi diflannu nid yn unig o'r goreuon sydd bellach yn heneiddio, ond o'r rhai newydd hefyd.
Mae Alex Turner wedi troi at fywyd distaw yn Efrog Newydd gyda'i gariad, Alexa Chung. Beth? Dyma yw'r blynyddoedd uchafbwynt i fod! Dwi eisiau ei weld yn llusgo ei hun allan o dacsi ac yn dinistrio ystafelloedd gwesty.
Mae'r erthygl yma yn hynod o ragfarnllyd, ond dwi'n sicr byddai mwy ohonoch yn hoffi gweld dychweliad y seren roc hen ffasiwn dda?
Tudalennau Celfyddydau Perfformio


