Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Sweden Yn Rhoi Twitter I Ddinasyddion

Postiwyd gan Gareth CLIC o Abertawe - Cyhoeddwyd ar 04/01/2012 am 16:16
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Chwaraeon a Hamdden, Technoleg, Materion Cyfoes

  • sweden

English version

Mae Twitter yn beth eithaf hyfryd, yn tydi?

Mae Sweden yn hefyd, gan i mi gofio o'r nifer gwaith dwi wedi gweld lluniau ohono ar Google. Dwi'n cofio'r cyfnodau yna yn dda.

Ond mae syniad newydd Sweden yn eithaf gwahanol i unrhyw beth arall sydd yn digwydd ar Twitter. Y rheswm am hyn? Wel, mae ymgyrch yn cael ei redeg gan Geidwaid Sweden, sydd yn caniatáu i un dinesydd yr wythnos i tweetio o gyfrif Twitter swyddogol y genedl. @Sweden. Dyma'r tro cyntaf i unrhyw genedl ganiatáu hyn.

Y syniad tu ôl i hyn ydy i hyrwyddo'r "natur ddemocratig brand y wlad".

Mae'r tweets hyd yn hyn wedi bod yn gymysg, o synfyfyrio personol am golli rhai agos a materion personol i tweets sydd yn eithaf doniol a hunan-hyrwyddol.

Hyd yn hyn, mae'r rhai o fewn y sffêr Twitter yn meddwl fod y syniad yma o tweetio ar ran y genedl yn ddiddorol, gyda Tweetiwr o'r enw Christina Pappas yn dweud "pwy well na'r preswylwyr i fod yn llais y wlad?"

Dywedodd defnyddiwr Twitter arall, Bret Treasure, fod hyn yn "arbrawf da iawn mewn democratiaeth".

Felly beth ydy'r tebygolrwydd o Gymru yn gwneud hyn? Beth fyddet ti yn ei ddweud os mai ti fyddai'n gyfrifol amdano? Sylwadau isod!

Ar y We – Gwybodaeth Diogelwch

Newyddion – Technoleg

Gwybodaeth – Diwylliant

Gwybodaeth - Cyfathrebu

CLICarlein ar Twitter
Shouttawe ar Twitter
CLIConline ar Twitter

Fynhonnell – Al-Jazeera

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.