Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Sussed!

Postiwyd gan pulley o Abertawe - Cyhoeddwyd ar 16/12/2011 am 12:21
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Chwaraeon a Hamdden

  • sussed

English version

Un o'r gemau teuluol newydd ar y farchnad sydd yn cyffroi ni eleni ydy Sussed!

Roedd y gwneuthurwyr yn ddigon caredig i roi sampl i ni brofi – i ddweud y gwir, fe wnaeth un o'r enillwyr het gorau yng Ngwobrau CLIC eleni gerdded i ffwrdd gyda Sussed! felly rydym yn edrych ymlaen at eu hadborth.

Yn y cyfamser, efallai dy fod eisiau buddsoddi mewn un ar gyfer Dydd Gŵyl San Steffan pan fydd y teulu yn dod draw. A gan ei fod yn gwis personoliaeth efallai byddet yn darganfod ychydig o bethau am dy Fodryb Beryl ar ôl iddi gael ychydig o sieri.

Mae Sussed! yn gwneud hi'n fwy o hwyl i ddarganfod pethau am bobl. Y bwriad ydy i sgorio'r mwyaf o bwyntiau gan ateb cwestiynau am chwaraewyr eraill, fel beth maen nhw'n hoffi, ddim yn hoffi, ymatebion, dymuniadau a barn. Mynega dy farn di ar bynciau ffordd o fyw fel selebs, ffasiwn, ffilm, bwyd, iechyd, cerddoriaeth, siopa, chwaraeon, teithio a theledu. Cymhara sut rwyt ti'n ystyried dy hun efo'r ffordd mae eraill yn ystyried ti.

Bywiog, agoriad llygaid a doniol iawn, gall y gêm gael ei chwarae gyda theulu, ffrindiau a dieithrion i ddarganfod pa mor dda wyt ti yn beirniadu cymeriad rhywun. Y mwy rwyt ti'n meddwl am yr ateb y pellach o'r ateb cywir rwyt ti'n debygol o gael. Nid oes angen unrhyw wybodaeth gyffredinol.

Mae Sussed! ar gyfer rhai dros 12 oed ac ar gyfer rhai ifanc a hŷn i ddod i adnabod ei gilydd yn well. Rhai esiamplau o gwestiynau ydy: "Beth wyt ti'n dymuno gallet ti wneud yn fwy na dim arall? A. Siarad gydag anifeiliaid B. Darllen meddyliau pobl C. Cyfathrebu gydag ysbrydion" a "Beth sydd yn gwneud i fi chwerthin fwyaf? A. Lluniau doniol B. Jôcs doniol C. Fideos doniol."

Mae Sussed! yn £8.99 ac ar gael o Amazon, HMV a rhai siopau ar y stryd fawr.

Tudalennau Chwaraeon a Hamdden

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.