Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Mae Dy Lywodraeth Di Angen Ti!

Postiwyd gan maxwell90 o Abertawe - Cyhoeddwyd ar 04/01/2012 am 14:57
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Diwylliant, Gwirfoddoli

  • you

English version

Yn 1989 gosododd y Cenhedloedd Unedig reol fod hawliau dynol pob plentyn o dan 18 oed yn cael ei amddiffyn. Galwyd hyn yn Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Cymru ydy un o'r unig lefydd yn Ewrop a'r lle cyntaf ym Mhrydain i wneud y rheol hon yn gyfraith ac yn rhan o holl benderfyniadau polisi.

Heddiw mae Llywodraeth Cymru yn datblygu beth maen nhw'n ei alw'n Cynllun Plant. Felly sut mae hyn yn effeithio fi ti'n gofyn? Wel, mae Llywodraeth Cymru eisiau chi fel pobl ifanc i gymryd rhan!

Mae'r cynllun hwn yn rhaglen sydd yn edrych ar goll blant a phobl ifanc yng Nghymru yn cael hawliau dynol llawn fel rhestrir gan y Cenhedloedd Unedig yn 1989. Mae'r Cynllun Plant yn gofyn i chi, y bobl ifanc yng Nghymru i edrych ar y Llywodraeth a gweld os ydynt yn gwneud eu gwaith yn gywir. Mae'r llywodraeth eisiau gwybod pethau fel beth sydd angen bod yn y cynllun? Pwy sydd angen cymryd rhan? A sut maent yn ,mynd i gymryd rhan? Gall ddysgu mwy am hyn yma  ac yma.

Sefydliad – CCUHP – Cael Pethau'n Iawn!
Gwybodaeth – Cyfraith a Hawliau – Dy Hawliau – Hawliau Dynol

Erthyglau Perthnasol

CCUHP: Geiriau Cywir, Trefn Anghywir

CCUHP: Camau Plant
CCUHP: Sut I Animeiddio

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.