Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Harry Potter – Scene It?

Postiwyd gan pulley o Abertawe - Cyhoeddwyd ar 05/12/2011 am 12:29
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Ffilmiau

  • scene

English Version

Os oeddech chi yn y gwobrau CLIC fis diwethaf efallai byddet ti wedi gwaeddi a chlapio fi ar gyfer y gystadleuaeth ar ddiwedd y noson, ble roedd tri CLICiwr yn cymryd i'r llwyfan i gystadlu am y goron o 'het gorau'r noson'.

Efallai dy fod di wedi 'wwian' ac 'aaian' ar beth roedd yr enillydd (yn y llun) wedi'i gael yn wobr: gêm Harry Potter eithaf hyfryd.

Nid unrhyw gêm arferol HP chwaith, ond almanac rhyngweithiol, aml-gyfryngol o fywyd Harry a'i anturiaethau dros yr wyth ffilm.

Enw'r gêm ydy Harry Potter – Scene It?

Mae'r gêm fwrdd a DVD teuluol yn cynnwys clipiau, cwestiynau a phosau ar y sgrin i gyd yn ymwneud â phopeth Harry a Hogwarts. Dwi'n meddwl ei fod wedi'i ddylunio yn benodol ar gyfer adegau pan fydd y teulu yn dod at ei gilydd dros gyfnod y Nadolig.

Bydd ffans y ffilmiau yn gallu cadw'r  cof yn fyw drwy chwarae'r gêm, tra mae'r rhai sydd yn parhau i fod yn ddryslyd am beth  oedd yn digwydd yn gallu dysgu un neu ddau o bethau

Eisiau copi dy hun? Yna cer draw i Amazon i brynu’r gêm.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.