Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwobrau CLIC: Y Canlyniadau

Postiwyd gan Gareth CLIC o Abertawe - Cyhoeddwyd ar 21/11/2011 am 16:52
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Comedi, Ysgrifennu Creadigol, Gwyl, Pobl, Materion Cyfoes

  • gwobr
  • gwobr2

English version

Wel, dyna ni wedi'i wneud.

Mae'r gwobrau gwydr eithaf hyfryd wedi'u rhoi allan i rai o bobl ifanc mwyaf talentog Cymru yng ngwobrau CLIC yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd nos Sadwrn diwethaf.

Fel y gwobrau eu hunain, daeth pobl ifanc o bob rhan o Gymru i ddathlu popeth sydd yn ymwneud â CLIC, er roeddwn yn eithaf trist nad welwyd y mamoth gwlanog.

Ond digon o siarad gen i, gad i ni ganu yn llawen i gân yr enillwyr, wrth longyfarch y rhai cafodd ei enwebu hefyd.

Aeth y wobr Erthygl Fwyaf Doniol i freichiau wrth longyfarch am ei herthygl Rantio Am Grefydd, er cafodd ei tharo i lawr i drydydd lle yn y categori Adolygiad Gorau, wrth i Jeff The Fridge o Gaerdydd ennill yr acolâd hwnnw am ei adolygiad o Amnesia: The Dark Descent.

Cafodd Bydda'n Ti, Gwna Wahaniaeth ei goroni yn Erthygl Fwyaf Defnyddiol y flwyddyn. Mae'r erthygl gan TheBossYouGetIt o Ieuenctid Sir Gâr yn trafod GwirForce, neu "X Factor Gwirfoddoli."

Ar ochr cyfryngol y gwobrau, cafodd y ffilm wych Moustachio gwobr Fideo'r Flwyddyn, tra cafodd Akshay1 o Abertawe Ffotograffydd y Flwyddyn gyda'i luniau o McFly.

Kranenvurhurr o Sir y Fflint aeth a'r wobr am Newydd-ddyfodiad Gorau am ei gysegriad ac mae wedi dod yn aelod gwerthfawr o'r tîm golygyddol Fflintyr Ifanc. Mae Kranenvurhurr, gwir enw Nicolas, hefyd yn cynhyrchu erthyglau diddorol ac sydd wedi'u hymchwil yn dda iawn, yn dod a'i gariad am drenau, diwydiant a thechnoleg i'r bobl.

Byddai'r Sprout ddim yr un peth heb yr un enillodd CLICiwr Mwyaf Ymglymedig a'r dyn yma ydy Stormer007. Nid yn unig mae ef wedi bod yn bresennol yn y cyfarfodydd, digwyddiadau, penwythnosau i ffwrdd ac wedi cynnal amryw gyfweliad, mae ei agwedd bositif tuag at y prosiect yn rhagorol ac wedi helpu siapio CLIC ac ysbrydoli pobl ifanc eraill i gymryd rhan.

Un o'r enillwyr mwyaf oedd Ihavethecyrusvirusx o Wicid, cafodd ei choroni yn CLICiwr y Flwyddyn. Mae hi wedi bod yn rhan o'r rhwydwaith ers mis Tachwedd 2010 ac ers y dydd hwnnw mae'r eneth yma oedd unwaith yn swil ac yn ddistaw wedi tyfu mewn hyder trwy fod yn rhan o'r prosiect CLIC.

Efallai mai rhain oedd yr enillwyr ond beth am y rhai ddaeth yn agos i ennill? Wel, isod mae'r rhestr lawn o'r tri uchaf o bob categori, gyda dolennau i'r erthyglau a'u proffiliau.

Erthygl Fwyaf Doniol
1af: Rantio Am Grefydd gan BethanTheBarmy o Rondda Cynon Taf
2il: Beth Ddylwn I Wneud? gan Kranenvurhurr o Sir Y Fflint
3ydd: Y Penbleth Nwyddau Band gan brimblethoughts o Sir Fynwy

Ffotograffydd y Flwyddyn
1af: Akshay1 o Abertawe
2il: CrazyDistortion o Rondda Cynon Taf
3ydd: luke_wr o Gaerdydd

Erthygl Fwyaf Defnyddiol
1af: Bydda'n Ti, Gwna Wahaniaeth gan TheBossYouGetIt o Sir Gaerfyrddin
2il: Myfyrdod Ar Drais gan monkey_drummer23 o Ben-y-bont ar Ogwr
3ydd: Ysgolion: Gwrandewch Arnom Ni! Gan Jess.. o Fro Morgannwg

Adolygiad Gorau
1af: Adolygiad: Amnesia: The Dark Descent (PC) gan Jeff The Fridge o Gaerdydd
2il: Fy Mhenwythnos CLIC gan aevans001 o Abertawe
3ydd: Adolygiad - Gnomeo & Juliet gan BethanTheBarmy o Rondda Cynon Taf

CLICiwr Mwyaf Ymglymedig
1af: Stormer 007 o Gaerdydd
2il: Robiuu o Gasnewydd
3ydd: iPlayBass o Ynys Môn

Newydd-ddyfodiad Gorau
1af: Kranenvuhurr o Sir Y Fflint
2il: Toriabeth! o Rondda Cynon Taf
3ydd: miss_ninjastar o Dorfaen

Erthygl Creadigol Gorau
1af: Pink Floyd, Dwi'n Caru Chi gan Bearshead o Fro Morgannwg
2il: Monolog – Yr Eneth Ddistaw gan Ihavethecyrusvirusx o Rondda Cynon Taf
3ydd: Perthynas Ben A Jerry gan glittereyes360 o Gastell-nedd Port Talbot

Fideo'r Flwyddyn
1af: Moustachio! gan iPlayBass, bensawyers a 07phillipsal o Ynys Môn, Castell-nedd Port Talbot a Bro Morgannwg yn ôl eu trefn
2il: Yr Amlygiad O CLIC gan CrazyDistortion a Stormer007 o Rondda Cynon Taf a Caerdydd yn ôl eu trefn
3ydd: Stori Emily (Parch Cymunedol Ym Mhenarth) gan Emilyyy o Fro Morgannwg

CLICiwr Y Flwyddyn
1af: Ihavethecyrusvirusx o Rondda Cynon Taf
2il: Stormer007 o Gaerdydd
3ydd: Steampunk13 o Ben-y-bont ar Ogwr

Gall weld rhai o'r lluniau yn ein galeri lluniau. Bydd y gweddill yn cael eu llwytho yn fuan!

Erthygl Berthnasol: GwobrauCLIC – Roeddwn I Yno!

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.