Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwna Google Yn Well?

Postiwyd gan Ploppy McDougle o Abertawe - Cyhoeddwyd ar 10/02/2012 am 09:24
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Technoleg

  • google

English version

Y peth am y Rhyngrwyd ydy mai gwybodaeth ydy'r brenin.

Bod hyn yn derbyn gwybodaeth am dy aseiniad nesaf neu'n rhoi gwybodaeth wrth gofrestru i wefannau.

Ond, mae'n ymddangos fod un o gewri'r rhyngrwyd yn barod i dalu ti am dy wybodaeth.

Ia, dyna ti, bydd Google yn rhoi $5 i ti bob tri mis os wyt ti'n gadael iddynt fonitro beth ti'n wneud ar y rhyngrwyd.

Pam felly? Wel, maen nhw'n dweud fod nhw eisiau "dysgu mwy am sut mae pobl bob dydd yn defnyddio'r rhyngrwyd".

Mae'r prosiect, gelwir yn Screenwise, yn bwriadu cynnig talebau Amazon i gael gwybod sut wyt ti'n defnyddio'r rhyngrwyd, a bydd yn gweithio trwy ehangiad ar borwr Google ei hun, Chrome. Wedi dweud hynny, dydy Amazon ddim yn noddi'r hyrwyddiad.

Er nad yw wedi'i lansio yn swyddogol, mae cofrestru wedi agor i'r rhai sydd yn barod  i ildio'u preifatrwydd i gael taliad.

Byddet yn derbyn $5 wrth arwyddo i'r gwasanaeth, a $5 pellach ar ôl tair mis o'i ddefnyddio, hyd at fwyafrif o $25, sydd yn golygu fod y prosiect hwn yn bwriadu rhedeg am o leiaf blwyddyn.

Beth wyt ti'n feddwl o hyn? Ydy hyn yn ffordd dda iawn i Google i ddatblygu mewn ffordd sydd yn canoli'r defnyddiwr yn hytrach na'r cyfranddaliwr?

Neu ydy hyn yn ffordd i un o fawrion y rhyngrwyd ennill mwy o arian gydag ychydig o ymdrech?

Tudalennau Arian

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.