Diwrnod Cicio'r Sigaréts Allan 2012
Tynna dy ddyddiadur allan ffrindiau, a gwna lun o sigarét gyda chroes drwyddo ar ddydd Iau 4 Ebrill 2012.
Pam? Am ei bod hi'n Ddiwrnod Cicio'r Sigaréts Allan.
Mae'r diwrnod yma yn bartneriaeth rhwng Tenovus a Ffaith (Rhaglen Ieuenctid ASH Cymru), gyda'r un olaf efo'r amcan o leihau'r derbynioldeb a'r defnydd o gynnyrch tybaco gan bobl ifanc Cymru.
Bydd y diwrnod yn llawn o weithgareddau, a bydd yn gadael i ti ddysgu am yr iechyd drwg sydd yn cael ei achosi gan y defnydd o dybaco ynghyd â'r pynciau ehangach o'r diwydiant tybaco mewn grwpiau cyfoed a chymunedau lleol.
Mae'n eithaf arswydus gweld yr ystadegau sydd yn ymwneud â'r defnydd o dybaco gan bobl ifanc Cymru, gyda phlant mor ifanc â saith yn dechrau ysmygu. Arglwydd.
Mae adroddiadau yn dweud fod 14% o ferched yn hawlio eu bod yn ysmygu yn rheolaidd ymysg rhai 15 oed yng Nghymru. Dyw bechgyn dim gwell, gyda 9% ohonynt yn dweud eu bod yn ysmygu'n rheolaidd.
Mae pedwardeg o genhedloedd wedi cymryd rhan yn yr Arolwg WHO Ymddygiad Iechyd Plant Oedran Ysgol, gyda dim ond dwy genedl (sef Yr Ynys Las a'r Ffederasiwn Rwsia) yn perfformio yn waeth na Chymru pan ddaw at y nifer o ferched 13 oed sydd yn ysmygu yn wythnosol.
Hefyd, mae'n ymddangos fod plant sydd yn perthyn i bobl sydd yn ysmygu yn fwy tebygol o ddod yn ysmygwyr eu hunain.
Mae bron pob ysmygwr (rhwng 66-90%) wedi cychwyn fel plant, sydd yn achos pryder gan fod cychwyn ysmygu yn fuan hefyd yn gysylltiedig â phatrymau ysmygu fwy trwm, a llai o debygolrwydd o roi gorau iddi a thebygrwydd uwch o ddioddef o afiechyd sy'n gysylltiedig â ysmygu
Mae'r mwyafrif o ysmygwyr (7 allan o 10) yn dweud eu bod yn dymuno gallu stopio ysmygu. Gan feddwl am hynny, pam ddim bod yn rhan a helpu mewn unrhyw ffordd bosib i leihau'r ystadegau yma?
Gall lawr lwytho llyfr ymgyrch am ddim yma. A tra ti wrthi, pam ddim ymuno tudalen Facebook Diwrnod Cicio'r Sigaréts Allan?

