Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Cyfweliad: Only Men Aloud

Postiwyd gan maxwell90 o Abertawe - Cyhoeddwyd ar 14/11/2011 am 11:00
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Cerddoriaeth, Llwyfan

  • oma
  • oma2

English version

Mae Only Men Aloud yn gôr Cymraeg sydd wedi gwneud eu henw drwy ennill y gystadleuaeth teledu'r BBC Last Choir Standing.

Roeddem yn ddigon lwcus i gael cyfweliad gyda Wyn Davies, aelod o OMA.

Mae Wyn wedi bod efo'r côr am yr 11 mlynedd lawn nawr ac yn dweud wrthym am holl bethau OMA.

Sut fyddet ti'n disgrifio Only Men Aloud i bobl ifanc yng Nghymru?
Wel, rydym yn gôr clasurol llwyr, ond gydag egni grŵp pop. 11 mlynedd yn ôl bellach, cychwynnodd Tim [Rhys] Evans y côr hwn i ddod a bywyd newydd i gerddoriaeth glasurol, fel esiampl mae un o'n traciau newydd yn gymysgedd o 'Viva la Vida' gan Coldplay a 'Rule The World' gan Take That.

Sut beth oedd ennill Last Choir Standing?
Wel roedd o'n eithaf swrreal os dwi'n onest. Pan roeddem yn cystadlu, roeddem yn ymarfer drwy'r adeg ac roeddem yn teimlo fel ein bod mewn swigen. Ond pan orffennodd y gystadleuaeth, roedd gweld ymateb y cyhoedd yn anhygoel. Yr uchafbwynt i mi oedd pan wnaethom berfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, gwerthwyd y tocynnau i gyd o fewn hanner awr ac roedd cael ymateb fel hynny yn anhygoel. Dwi'n cofio'r llenni yn agor ar y noson gyntaf yna ac wedi'n synnu gyda'r dorf, roedd yr ymateb wedi taro ni i gyd ac roedd yn eithaf emosiynol.

Sut mae ennill Last Choir Standing wedi helpu dy yrfa?
Mae wedi cael effaith positif mawr iawn. Gallem werthu allan cyngherddau Prydeinig nawr, rydym wedi cael y cyfle i fynd dramor, ond yn fwy pwysig mae wedi helpu ni i ddatblygu fel sefydliad. Cawsom y cyfle i wneud pethau fel Only Boys Aloud hefyd ble roedd bechgyn ifanc rhwng 14 a 19 yn cael y cyfle i wneud beth rydym ni yn ei wneud. Peth pwysig iawn i ni oedd defnyddio ein llwyddiant i elwa'r gymuned.

Roedd Only Boys Aloud yn llwyddiant gwych, fydd yna unrhyw brosiectau eraill fel yr un yma yn y dyfodol?
Mae Only Boys Aloud yn parhau hyd heddiw. Mae aelodau newydd yn ymuno drwy'r adeg, maent yn ymddangos ar un o'n traciau ar gyfer yr albwm Nadolig newydd. Rydym hefyd wedi gallu mynd i mewn i ysgolion cynradd nawr ar gyfer prosiect newydd o'r enw Only Kids Aloud, roedd yr ymateb yn wych, roedd y brwdfrydedd gan y plant roeddem yn ymweld â nhw yn wych ac mae'n braf gweld cerddoriaeth yn gwneud hynny. Nid oes digon o weithgareddau cerddoriaeth i blant gymryd rhan ynddo ac mae'n rhyddhad da.

Sut beth oedd gweithio gyda phobl fel Bonnie Tyler a Katy Treharne?
Rydym wedi bod yn ddigon lwcus i weithio gydag artistiaid gwych: Katherine Jenkins, Tom Jones, gallwn fynd ymlaen. Roedd Bonnie Tyler yn hwyl fawr. Dwi'n cofio pan gawsom wadd i'w thŷ yn Y Mwmbwls a'r peth cyntaf dywedodd wrthym wrth agor y drws oedd, "Fyddech chi'n hoffi gwydriad o win?" Roedd gweithio gyda phobl fel Anthony Hopkins a Tom Jones yn ystod y Cwpan Ryder yn arbennig iawn hefyd. Rhoddodd Cymru ar y map, ac i weld nhw'n perfformio, hyd yn oed nhw'n ymarfer, roedd yn wych i weld, maent yn wers dda i unrhyw artist ifanc.

Mae'r albwm newydd allan ar 28 Tachwedd, beth gall ffans ddisgwyl ohono?
Wel, mae'n agosáu at y Nadolig felly bydd yn deimlad Nadoligaidd iawn, bydd traciau Nadolig clasurol arno fel Silent Night, ond hefyd rhai modern fel y cymysgedd Coldplay a Take That dwi wedi'i sôn amdano. Fe ddylai fod yn wych, dwi'n herio ti i ddarganfod albwm mwy gwahanol.

Felly rhif un Nadolig?
Wel, ti byth yn gwybod. Dwi'n meddwl os gallwn ni gael Chris Moyles ar ein hochor yna ti byth yn gwybod, ond byddwn yn hapus os gallem gael Rhif 1 Nadolig clasurol arall fel llynedd.

Felly beth sydd ar y gweill i Only Men Aloud yn y dyfodol, mwy o ymddangosiadau teledu er esiampl?
Ti byth yn gwybod pan ti yn y busnes yma. Rydym yn canolbwyntio ar y Nadolig am nawr, gyda'r daith a'r albwm newydd ac yna wedyn rydym yn gobeithio cael yn ôl i'r stiwdio a gwneud ychydig mwy o recordio ac yna efallai ychydig mwy o ddyddiadau cyngherddau.

Roedd yn grêt siarad gyda Wyn, bydd Only Men Aloud ac ef yn dod i Gymru yn fuan iawn os wyt ti eisiau mynd i'w gweld. Bydd yr hogiau yn chwarae yng Ngogledd y wlad ar nos Sadwrn 10 Rhagfyr yn Venue Cymru Llandudno, ac yn y De wythnos wedyn ar nos Sadwrn, 17 Rhagfyr yn Arena Motorpoint Caerdydd.

www.onlymenaloud.com

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.