Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Caws Rhagorol, Gromit

Postiwyd gan pulley o Abertawe - Cyhoeddwyd ar 27/09/2011 am 11:28
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Bwyd a Diod

  • caws

English version

Penwythnos diwethaf gwelwyd dychweliad Gŵyl Gaws Fawr Prydain i Gastell Caerdydd.

Nawr yn ei bedwaredd flwyddyn yng Nghymru (wedi'i gynnal yn Sir Rhydychen a Cheltenham gynt), mae'r ŵyl yn fwy na dathliad o'r stwff drewllyd melyn yn unig.

Mae cerddoriaeth byw, artistiaid perfformio, stondinau bwyd sydd ddim yn gaws ac wrth gwrs y cyfle i gerdded o amgylch tir y castell i gyd yn ychwanegu at y profiad coginiol.

Mae hefyd gemau ar ffurf sgitlau rholio caws a thaflu caws ('welcome tossers' dywedai'r arwydd yn y parth gemau).

Aethom ar drip yno o Abertawe yn gobeithio cael digon o'r samplau caws roeddent yn addo, ac ni chawsom ein siomi. Unwaith yn y castell mae nifer o babelli wedi dotio o gwmpas, ond yr un mae pawb yn anelu amdano ydy'r un yng nghefn y digwyddiad.

Mae'r babell 'Marchnad Caws Mwyaf Prydain' yn llawn o rai sydd yn clodfori bwyd yn arfog â phren coctel, i gyd yn gwthio penelin i geisio cael at y cownteri caws llawn i brocio un o'r sgwariau sampl bychan roedd y gwerthwyr yn ei dorri yn gyffrous er mwyn bodloni'r galw amdanynt.

Roedd stilton aeddfed, cheddar mwyn, caws hufennog gyda cheirios y wern a llawer mwy ar gynnig i gael blas ac i brynu. Roedd hefyd yn eithaf difyrrus gweld pa stondinau oedd yn gyfyng gyda'i chaws (fel arfer yn edrych yn nerfus wrth iddynt dorri dim ond digon i bobl gymryd bob hyn a hyn) a'r rhai oedd yn rhannu nhw allan mewn pentyrrau (chwarae teg i Tesco; sgwariau mawr wedi'i bentyrru yn uchel ar hyd y cownter).

Pan roeddem wedi cael digon o'r stwff melyn yma fydda'n rhoi breuddwydion i ni fu i ni honcian allan a llwyddo rhannu byrger oen mint organig gan un o'r stondinau cyn cwympo ar y gwair i wylio pobl yn sboncio o gwmpas i Cakehole Presley ar y llwyfan.

Pan roeddem yn teimlo yn llai llawn wedi'r bwyd aethom am dro o gwmpas (ar un pwynt yn cael cwtsh am ddim gan bobl wedi gwisgo fel coed) ac yna chael diod o babell tafarn y Cardiff Arms cyn dychwelyd am gartref.

Mae Gŵyl Gaws Fawr Prydain yn ddiwrnod anhygoel allan, er ychydig yn ddrud efo tâl mynediad o £8.50, ond unwaith wyt ti mewn yno os wyt ti'n mynd o gwmpas yn ddigon trylwyr gallet fwyta y rhan fwyaf ohono yn ôl mewn samplau bwyd a diod.

Mae hefyd dosbarth arbenigedd ar gael mewn blasu caws / gwneud caws / paru caws gyda gwin ayb ond mae rhaid talu'n ychwanegol am hynny.

Byddwn ni yn bendant yn ôl flwyddyn nesaf gydag ein profiad dealltwriaeth a sgiliau blasu newydd!

www.greatbritishcheesefestival.com

Tudalen Bwyd
Cheese From Space!
Cheese Fest (Adolygiad Gŵyl Gaws 2009)

DELWEDD: Swamibu

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.