Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Adolygiad: Final Fantasy XIII-2

Postiwyd gan Ragnarok o Abertawe - Cyhoeddwyd ar 14/02/2012 am 16:58
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Technoleg

  • logo
  • girl

English version

Gynharach yn y mis rhyddhaodd Square Enix ei ddilyniant i'r cyntaf o'r wythfed-cenhedlaeth Final Fantasy; XIII-2.

Ers ei lansiad ar ddydd Gwener 3ydd Chwefror,  nid yw wedi gadael fy nghonsol. A dim ond nawr dwi'n teimlo fod gen i ddigon o wybodaeth o'r gêm i'w adolygu. Fe geisiaf barhau gyda gofal i geisio peidio ysgrifennu pethau gall ddifetha XIII a XIII-2 i adael i'r rhai sydd ddim wedi 'u chwarae i fwynhau'r adolygiad hwn heb 'spoiler'.

Hefyd, yn wahanol i'r adolygiad diwethaf, dim ond efo'r fersiwn PS3 mae'r adolygiad yma wedi'i wneud, er nid oes llawer o wahaniaeth mewn perfformiad rhwng fy nghonsol i a'r Xbox 360.

Y Stori

Mae'r stori yn dilyn yn syth o ddiwedd XIII, er dyw chwarae'r gêm ddim yn dechrau tan dair blynedd wedyn. Er, fel ei rhagflaenydd, ni fydd y cychwyn yn gwneud synnwyr llwyr i ti tan fyddi di o leiaf hanner ffordd drwy'r stori. Gan nad oedd gen i broblem efo hyn y tro cyntaf, roeddwn i yn disgwyl ef y tro hyn.

Ar ben ei hun, mae'r stori yn dal ei hun yn eithaf da, ond mae'r deialog yn ailadrodd ei hun sawl gwaith. Nid yn y synnwyr fod un person yn dweud yr union linell mae cymeriad arall yn ei ddweud, mwy bod un person yn ail-eirio beth mae rhywun arall wedi'i ddweud. Mae'n iawn ar adegau, gan fod rhai cymeriadau yn ceisio gwneud synnwyr o beth mae rhywun newydd ddweud wrthynt, ond ar adegau eraill mae'n teimlo fel ei fod yn cael ei wneud er mwyn llenwi, rhywbeth wedi'i ychwanegu dim ond i wneud y gêm yn hirach.

Fel y dilyniant uniongyrchol cyntaf i deitl Final Fantasy, X-2,  mae XIII-2 efo amryw ddiweddiadau, er mae'r teitl blaenorol yn gofyn i ti gwblhau canran penodol o'r gêm i agor diweddiadau gwahanol. Ond, ar y llaw arall, dydy XIII-2 ddim ond yn gadael i ti edrych ar ddiweddiadau eraill ar ôl cwblhau'r  diwedd gwreiddiol, sydd yn syniad da dwi'n meddwl. Wedi dweud hynny, dwi heb weld dim o'r diweddiadau eraill (sydd yn cael ei adnabod yn y gêm fel Diweddiadau Paradocs).

O beth gefais i wrth chwarae tan y diwedd, mae'r diwedd ei hun yn benagored dros ben, a gallai hyn agor cwestiynau fod potensial o XIII-3 yn cael ei ryddhau, neu efallai cynnwys ychwanegol gall lawr lwytho i ehangu ar y stori.

Chwarae'r gêm

Gorffennais y brif stori mewn ychydig dros drideg awr, sef hanner beth gymerodd gyda XIII. Ond i wneud i fyny am hyn, mae yna fwy i wneud yn XIII-2 nag yn XIII.

Yn cael ei feirniadu am ei linoledd, mae Square Enix yn rhoi chwarae gêm benagored i chwaraewyr. Mae yna lawer mwy i archwilio, gyda gofod, teithio drwy amser a pharadocs yn prif ffocws XIII-2. Gall ymweld â map penodol mewn gwahanol ganrifoedd. Mae hefyd dyfodol eraill, ble mae'r newidiadau ti'n ei greu mewn un cyfnod yn effeithio cyfnod arall. Mae'n gysyniad eithaf da, a ti yn teimlo fod Square Enix wedi rhoi llawer o amser i mewn i hyn, ond dwi yn teimlo fod angen iddynt newid tirwedd rhai ardaloedd yn llym. Mae ardaloedd yn gallu newid o ganrif i ganrif, ond dim ond newidiadau bach sydd i'w gweld yn y gêm, yn bennaf yn ymwneud gyda'r tywydd.

Mae lefelu i fyny wedi dod yn llai llinellol hefyd. I gychwyn, dydy'r system lefelu i fyny (neu'r Crystarium) ddim wedi'i glo i ddilyniant stori fel yr oedd yn XIII, ond yn fwy fel Sphere Grid yn X. Mae'n system dda, ond bydd rhaid i ti fod ar dy gêm i gael y budd ohono.

O ran ymladd, mae bron yn chwarae yn union yr un peth ag yn XIII, gyda newidiadau craff. Er mai'r gwahaniaeth mawr ydy gallet ti recriwtio angenfilod i dy dîm. Meddylia Pokemon, ond newid Pokeballs i grisialau a ti'n deall y sylfaenol. Mae'n syniad diddorol sydd yn gweithio'n dda iawn, ond gall gorlethu'r rhai sydd yn cychwyn y stori.

Un agwedd gallai fod wedi cael ei wella ydy'r onglau camera wrth ymladd gelynion. Ymddangosai fel bod y gêm yn dewis onglau eithaf lletchwith, ond mae'n dal i adael i ti symud y camera fel wyt ti eisiau. Mwy o anhwylustod bach nag rhywbeth sydd yn gadael y gêm i lawr yn ofnadwy.

Un siom mawr i fi ydy fod y cymeriad sydd wedi cael ei ddefnyddio i hysbysu'r gêm, Lightining, prin i'w gweld yn y gêm. Yr unig amser mae'r chwaraewr mewn rheolaeth o Lightning ydy yn y golygfeydd agoriadol, ac unwaith mae hynny drosodd, dim ond adrodd stori'r gêm mae hi, ynghyd â'r prif gymeriadau Serah a Noel.

Pam bod fi'n teimlo fod hyn yn siom? Wel, roedd y gêm wedi'i hysbysu gyda hi yn ganolbwynt iddo. Lightning sydd ar glawr rhai o'r gêmau ac sydd yn cael ei chynnwys yn y logo gyda Caius Ballad, y gwrthwynebydd gydag enw a golwg tebyg i'r band Steel Panther. Mae'n ymddangos fel dy fod di'n saethu dy hun yn dy droed i hysbysebu gyda rhywun sydd ddim efo llawer o amser ar y sgrin, ac mae'n siom, gan mai hi ydy un o'r cymeriadau FF gorau i gael ei greu.

Y Graffeg

Mae'r raffeg bron yr un peth ag y maent yn XIII, ond mae llawer llai o animeiddiad wedi’i rendro. Efallai i gywasgu'r holl gêm o dri CD ar yr Xbox 360 i ddim ond un. Mae'n anodd dweud os ydy cael llai o olygfeydd wedi'u rendro yn tynnu o chwarae'r gêm yn gyffredinol, ond doeddwn i ddim yn teimlo fy mod yn cael cam. Wedi dweud hynny gallai fod wedi'i osod allan mwy, gan mai dim ond ar gychwyn a diwedd y gêm ti'n ei gweld.

Soniais am yr ardaloedd mae'r chwaraewyr yn ymweld â nhw, ond maent i gyd yn gyffredinol neis trwy'r gêm. Nid oes colled amlwg o gyflymdra ffrâm. Roedd rhai o'r animeiddiadau wrth chwarae yn teimlo'n lletchwith (er esiampl, Serah yn gafael yn y cleddyf), ond ar y cyfan, mae popeth yr un peth ag yr oedd yn XIII.

Yr ardal gorau o bell ffordd ydy lle o'r enw Oerba. Y tro cyntaf gwelais ef yn XIII, roeddwn i'n geg agored mewn parch. Roeddwn i'n hyd yn oed fwy ceg agored wrth ymweld ag ef yn XIII-2. Mae'n hyfryd, a bosib mai dyma'r symbol gorau i thema'r ddwy gêm, a drwy ychwanegu'r gerddoriaeth i'r cymysg, mae'n un o'r ardaloedd fydd yn aros gyda fi am hir iawn.

Y Gerddoriaeth

Yn fyr, mae'r trac sain yn dda, ond nid yw'n well na'r gerddoriaeth yn XIII. Mae rhai traciau yn bwerus ac yn cyd-fynd â'r chwarae yn y gêm yn berffaith, tra mae eraill yn dda yn unig. Dyna'r broblem efo unrhyw Final Fantasy, mae "da yn unig" yn cael ei gysidro'n beth drwg.

Byddwn i'n dweud bod tua thraean o'r rhestr set gyfan yn draciau gwreiddiol o XIII. Roedd rhai rhannau yn ymddangos fel llythyr cariad i'r rhai sydd yn caru XIII, ond weithiau mae'n teimlo fel ei fod wedi'i roi at ei gilydd yn ddiog iawn.

Y Dyfarniad

Ydy hwn yn gêm dda? Yn syml, ydy.

Mae llawer mwy i wneud, o ddatrys paradocs i rasio chocobos. Pan mae golygfeydd-torri wedi rendro, maen nhw'n hyfryd dros ben (yn enwedig y grŵp cyntaf gyda Lightning – anhygoel). Yr unig beth negyddol i mi ydy nad oes gwir amrywiad mewn anhawster. Dwi'n gobeithio bod Square Enix yn creu darn i greu dull anodd, ond gan anwybyddu pa mor hawdd ydy'r gêm (o gymharu â XIII, o leiaf), mae Final Fantasy XIII-2 yn gêm sydd ddim yn rhy bell o gael ei frandio'n epig.

Wedi dweud hynny dwi yn awgrymu  ti chwarae Final Fantasy XIII cyn chwarae hwn. Nid yn unig oherwydd 'spoilers', ond mae'r stori yn gwneud mwy o synnwyr na fyddai heb chwarae'r rhagflaenydd gyntaf.

Newyddion – Technoleg

Erthygl Berthnasol: Final Fantasy XIII
 

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.