Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Adolygiad: ASIWYFA

Postiwyd gan pulley o Abertawe - Cyhoeddwyd ar 10/05/2011 am 14:26
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Cerddoriaeth

English version

Mae trip i Gaerdydd am ychydig o weithgaredd gigio yn gyrch buddiol, ond mae'n helpu llawer pam ti'n gwybod byddet yn profi camdriniaeth glywedol gan un o'r bandiau offerynnol gorau sydd yn bodoli ar hyn o bryd.

Gall …And So I Watch You From Afar gael ei feddwl fel un o'r bandiau sydd yn gweithio caletaf pan ddaw i deithio. Mae rhyddhad eu hail albwm, Gangs, hefyd wedi cynyddu'r cynnwrf o'u cwmpas, er mae'r mwyafrif o'r dorf roc yn dal angen tiwnio’i mewn a gwthio nhw tuag at fannau chwarae mwy.

Ac felly, gyda dyrnau wedi'u clensio, cyrhaeddom lawr uchaf Clwb Ifor Bach, lle'r oedd y band Mojo Fury oedd yn cefnogi yn gorffen. Roedd uchafbwynt y set yn swnio'n dda, ond nid yw'n ddigon i mi wneud adolygiad – fe ddaethom o Abertawe i fod yn deg, ac mae hynny'n cymryd amser. (Golygai hefyd fod y band cefnogol cyntaf Exit International adref ac yn eu gwlâu erbyn i ni gyrraedd.)

Daeth ASIWYFA i mewn yn llawn hyder a ffocws fel bob tro. Perfformiwyd y gân gyntaf BEAUTIFULUNIVERSEMASTERCHAMPION sydd hefyd yn gân agoriadol yr albwm newydd, a llwyddo i arddangos eu sain adnabyddadwy wrth arloesi ongl fwy ffres a thynn.

Mae mwy o ganeuon o Gangs yn dilyn, cyn iddynt chwarae caneuon cynharach fel If It Ain't Broke, Break It a S Is For Salamander. Mae'r band yn curo eu gitârs yn ffyrnig, tra mae'r drymiwr golygus Chris Wee yn dal y curiad yn dynn yn ei le drwy'r newid amser sgitso a'r curiadau trwm.

Chwaraewyd dau o'r caneuon fwyaf poblogaidd yn ystod yr encôr, Set Guitars To Kill a'r gân hyfryd o felancolaidd, The Voiceless, cyn i ni adael am gartref wrth iddynt adael am y ddinas nesaf ar y rhestr ddiddiwedd o fannau chwarae a gwyliau.

Os wyt ti'n hoffi dy ganeuon yn offerynnol ac yn uchel ond efo darnau o fyfyrdod, byddai'n dda i ti ddal yr hogiau yma pan fydda nhw'n ymweld tro nesaf.

ASIWYFA Ar Facebook
ASIWYFA Ar MySpace
Sianel YouTube ASIWYFA
Tudalen Cerddoriaeth

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.