Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Teulu a Pherthnasau » Cyfeillgarwch

Mae enghreifftiau o gyfeillgarwch yn berthnasoedd arbennig iawn ac a all bara gydol oes.

Mae ffrindiau yno i gynnig cymorth a chefnogaeth i chi pan fo arnoch ei angen. Dyma’r bobl yr ydych wedi tyfu i’w hadnabod, eu hoffi ac i ymddiried ynddynt. Byddant yn gwrando arnoch ac yn rhoi cyngor da i chi – hyd yn oed os nad ydych weithiau yn dymuno ei glywed! Yn dâl am hyn byddwch yn gallu gwneud yr un peth iddyn nhw.

Bydd gwir ffrind yn eich gwerthfawrogi ac yn eich derbyn am bwy ydych chi, waeth beth fo eich hil neu eich cefndir. Ni fydd gwir ffrind yn eich bwlio nac yn rhoi pwysau arnoch i wneud pethau nad ydych yn gysurus yn eu gwneud.

Mae’n arferol i ffrindiau ddadlau weithiau, nid yw’r ffaith eich bod yn ffrindiau yn golygu na allwch anghytuno ar rywbeth weithiau.

Mae pawb yn wahanol ac mae ar rai pobl angen mwy o ffrindiau nag eraill. Mae gan rai pobl gylchoedd mawr o ffrindiau ac mae gan rai un neu ddau ffrind agos yn unig. Mae rhai pobl yn dewis peidio â chael gormod o ffrindiau ac yn treulio llawer o amser ar eu pennau eu hunain neu gyda’u teulu ac mae hynny’n iawn hefyd.

Os dechreuwch mewn ysgol newydd, swydd newydd neu yn y brifysgol peidiwch â phoeni a fydd gennych unrhyw un i fynd o gwmpas gyda nhw. Byddwch yn gwneud ffrindiau newydd yn fuan iawn a byddwch yn dal i gadw’ch hen rai hefyd. Os na allwch weld eich ffrindiau mor aml ag yr hoffech, gallwch gadw mewn cysylltiad ar y ffôn, drwy negeseuon testun ac e-bost.

Ceisiwch wneud ffrindiau newydd ble bynnag yr ewch – maent yn hwyl a gallant wneud i chi chwerthin, a byddwch bob amser yn dysgu rhywbeth gwahanol o bob cyfeillgarwch gwahanol.

Sefydliadau

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.