Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg » Addysg Uwch

Mae addysg uwch yn golygu llawer mwy na dim ond astudio am radd. Mae’n gyfle i gyfarfod pobl newydd, dysgu bod yn annibynnol a manteisio ar ystod eang o gyfleoedd newydd.

 

Os ydych yn meddwl am ymgeisio i’r Brifysgol bydd angen i chi ystyried pa bwnc neu gyfuniad o bynciau yr hoffech chi eu hastudio a ble yr hoffech astudio. Ymchwiliwch ac edrychwch i mewn i’r gwahanol Brifysgolion gymaint â phosibl cyn gwneud eich penderfyniad.

 

Cynigir ystod eang o bynciau i’w hastudio yn y Brifysgol, o’r pynciau mwy traddodiadol fel Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth i’r rhai mwy anghyffredin fel astudiaethau golff a phypedwaith!

  Mae addysg uwch yn brofiad gwahanol iawn i addysg ysgol neu goleg, disgwylir llawer mwy oddi wrthych chi. Bydd eich tiwtoriaid yn rhoi canllawiau i chi ond chi sy’n gyfrifol am eich presenoldeb, eich dysgu eich hun ac am reoli eich amser.

 

Bydd angen i chi feddwl hefyd am sut y byddwch yn talu am eich astudiaethau ac a ddymunwch fyw oddi cartref wrth i chi astudio. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, mae gan y rhan fwyaf o bobl hawl i ymgeisio am gymorth ariannol i’w helpu i dalu am eu hastudiaethau.

 

Gall yr erthyglau yn yr adran hon roi cyngor i chi ynglŷn â sut i baratoi ar gyfer Prifysgol a rhoi gwybodaeth i chi am ymgeisio, cyfweliadau, astudio dramor a blynyddoedd i ffwrdd.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.